At:                             Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan:                          Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod:    20 Tachwedd 2014

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
tymor y gwanwyn (Ionawr – Mawrth 2015)

Diben

1.   Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.

Cefndir

2.   Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fis Ionawr hyd at fis Mawrth 2015.

3.   Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.

4.   Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor.

Argymhelliad

5.    Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.


 

Atodiad A: Amserlen y Pwyllgor yn nhymor y gwanwyn 2015

Dydd Iau 15 Ionawr 2015 (bore a phrynhawn)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): tystiolaeth gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil[1] (cyhoeddus)               

-     Sesiwn graffu cyffredinol gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: ystyried yr allbwn drafft (preifat)

Dydd Mercher 21 Ionawr 2015 (bore yn unig)

-     Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried yr adroddiad drafft (preifat)

-     Gweithgareddau ymgysylltu ar yr ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau (preifat)

Dydd Iau 29 Ionawr 2015 (bore a phrynhawn)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)

Dydd Mercher 4 Chwefror 2015 (bore yn unig)

-     Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)

Dydd Iau 12 Chwefror 2015 (bore a phrynhawn)

The Business Committee wrote to the Health and Social Care Committee on 11 November 2014 to indicate that it intended to refer the Safe Nurse Staffing Levels (Wales) Bill to the Health and Social Care Committee for Stage 1 scrutiny, and to seek the Committee’s views on the proposed timetable.  The Committee wrote back to the Business Committee on 14 November to indicate that it was content with the proposed timetable.  The Committee is anticipating considering its approach to Stage 1 scrutiny on 10 December 2014, and may update its outline work programme as a result.

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)

Dydd Llun 16 Chwefror – dydd Sul 22 Chwefror 2015: toriad

Dydd Mercher 25 Chwefror 2015 (bore yn unig)

-     Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)

Dydd Iau 5 Mawrth 2015 (bore a phrynhawn)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (cyhoeddus)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): tystiolaeth gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil (cyhoeddus)

-     Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): ystyried y dull gweithredu ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1[2] (preifat)

Dydd Mercher 11 Mawrth 2015 (bore yn unig)

-     Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiynau tystiolaeth lafar (cyhoeddus)

Dydd Iau 19 Mawrth 2015 (bore a phrynhawn)

-     Sesiwn graffu gyffredinol a chraffu ariannol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd (cyhoeddus)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y prif faterion (preifat)

Dydd Mercher 25 Mawrth 2015 (bore yn unig)

-     Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru): tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (cyhoeddus)

-     Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystried yr adroddiad drafft (preifat)

 



[1] Mae amser wedi’i ddyrannu dros dro yn rhaglen waith y Pwyllgor gan dybio y cyflwynir y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2014 ac y caiff ei gyfeirio at y Pwyllgor ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1.  Pe bai’r Bil yn cael ei gyflwyno’n gynt neu’n ddiweddarach, caiff rhaglen waith y Pwyllgor ei diweddaru yn unol a hynny. Disgwylia’r Pwyllgor y bydd yn ystyried ei ddull gweithredu o ran craffu yng Nghyfnod 1 ar 10 Rhagfyr 2014, ac mae’n bosibl y bydd yn diweddaru ei raglen waith amlinellol o ganlyniad i hynny.

[2] Mae amser wedi’i ddyrannu dros dro yn rhaglen waith y Pwyllgor gan dybio y cyflwynir y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) ar ddechrau mis Chwefror, ac y caiff ei gyfeirio at y Pwyllgor ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1.  Pe bai’r Bil yn cael ei gyflwyno’n gynt neu’n ddiweddarach, caiff rhaglen waith y Pwyllgor ei diweddaru yn unol a hynny.